CYMRAEG

Rhaglen Cynhadledd Tirwedd ac Amgylchedd 2009 - Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau

LIVING LANDSCAPES

Cynhadledd ryngwladol am berfformio, tirwedd a'r amgylched

Prifysgol Aberystwyth, 18-21 Mehefin 2009

www.landscape.ac.uk/2009conference.html

-COFRESTRU AR AGOR!-

Gweler isod am fanylion cofrestru llawn

...tirwedd a pherfformio, perfformio yn y dirwedd, perfformio am dirwedd, perfformio fel tirwedd, tirwedd fel perfformiad...

...digwyddiadau safle-benodol, prosiectau cerdded, celf tir, gweithgarwch amgylcheddol, arferion traddodiadol, ymweliadau dan arweiniad, teithiau wedi'u tywys, gweithgareddau hamdden...

...ffenomenoleg, perfformiadrwydd, damcaniaeth anghynrychiadol, symudedd, preswylfa, ymgorfforiad, dynamedd, effaith.

Bydd LIVING LANDSCAPES yn cynnwys mwy na 140 o gyflwyniadau, perfformiadau a digwyddiadau, gan gynnwys cyfraniadau gan artistiaid ac ymchwilwyr o Awstralia, Canada, y Ffindir, yr Almaen, Iwerddon, Israel, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Norwy, Portiwgal, Prydain ac UDA.

Bydd y cyflwyniadau yn cynnwys papurau, perfformiadau, gweithdai, ymyriadau a gosodiadau perffomiadol; ymhlith y cyfranwyr sydd wedi eu cadarnhau y mae: Mike Brookes/Rosa Casado, Stephen Daniels (Nottingham), Dee Heddon (Glasgow), Eddie Ladd , Hayden Lorimer (Glasgow), David Mattless (Nottingham), Graeme Miller, George Monboit, Alan Read (King's), Jane Rendell (UCL, Ysgol Pensaernïaeth Bartlett), Chris Watson, Simon Whitehead, David Williams (Falmouth/Dartington), Wright & Sites, John Wlie (Caerwysg), ac eraill.

Y GYNHADLEDD:

Mae tirwedd a'r amgylchedd o bwys diwylliannol aruthrol ar hyn o bryd: fel meysydd o ymchwil ysgolheigaidd, safleoedd o waith celfyddydol a mannau o bryder cyhoeddus. Gan eu bod yn gynrychiolaethau'r dychymyg, yn ogystal â bod yn realiti materol, maent yn fannau i ddatgan teimladau a syniadau cymhleth – am harddwch, perthyn, hawl i ddefnyddio adnoddau, perthynas â natur, y gorffennol a'r dyfodol, gwneud synnwyr o'r byd a'r bobl ynddo.

Ni ystyrir perfformio fel arferiad creadigol a modd o gynrychioli yn unig bellach, ond hefyd yn fwyfwy fel ymgorfforiad hanfodol o chwilfrydedd ac fel trosiad dadansoddol.

Mae'r cysyniad o dirlun yn cynnwys ystod eang o leoedd: dinesig, gwledig a diwydiannol, mawreddog ac anghofiedig, cyffredin a hudolus, yn fannau yn y cof ac yn destunau gwrthdaro, yn ymgorfforiadau, yn lleoedd i edrych arnynt, symud drwyddynt, gweithio arnynt, byw ynddynt.

Mae perfformio yn cynnig cyfleoedd i ystyried a phrofi y fath leoedd, i'w hastudio a'u deall, eu nodweddu, a'u dychmygu o'r newydd.

Mae agor maes lle y cydweithiai arferion ysgolheigaidd ac artistig â'i gilydd, a daw safbwyntiau beirniadol newydd i'r amlwg, yn ogystal ag ymdeimladau a chysylltiadau newydd, â'r dirwedd a'r amgylchedd i'r amlwg: daw symud, ymweld, perthyn, ymdrochi, preswylio a brwydro i gyd yn ffyrdd o werthfawrogi natur lleoedd.

Bwriad y gynhadledd draws-ddisgyblaethol hon, a gynhelir dros bedwar diwrnod, yw ymdrin â'r cysylltiadau amrywiol ac amryfal – rhai sy'n bodoli a rhai dichonol – rhwng tirweddau, yr amgylchedd a pherfformio; mae'n dod ag artistiaid, ymarferwyr ac ysgolheigion at ei gilydd, o feysydd megis gwyddoniaeth, archeoleg, anthropoleg, perfformio, astudiaethau cerddoriaeth a dawns, astudiaethau'r cyfryngau, astudiaethau amgueddfeydd, polisïau diwylliannol ac amgylcheddol, astudiaethau llên gwerin a hanes celf.

Dyma rai o'r themâu a'r cwestiynau y bydd y gynhadledd yn ymdrin â nhw:

Sut rydym yn byw ar dirweddau, ac ynddynt a thrwyddynt?

Sut mae perfformio yn datgelu tirweddau, a'u dychmygu, eu profi, yn ymladd drostyn, yn eu hanimeiddio a'u cynrychioli?

Sut all perfformio ategu ein cysylltiad â'r dirwedd a'r amgylchedd, ac ymestyn ac ehangu'r cysylltiad hwnnw, yn ogystal â sut rydym yn eu dehongli a'u gwerthfawrogi?

Sut all perfformio oleuo y lliaws o gysylltiadau, ystyron ac emosiynau sy'n atseinio mewn tirweddau - yn weledol, clywedol a chyffyrddadwy - a sut mae'n gallu egluro neu gymhlethu'r pethau hyn.

Pa strategaethau a ffurfiau ar esboniadau perfformiadol yn cael eu hysbrydoli a'u gorfodi gan weithio gyda thirlun - fel cyfrwng a golygfa mynegiant?

Beth yw bywyd tirwedd a'r amgylchedd a sut caiff ei berfformio?

GWYBODAETH COFRESTRU

Ffioedd cofrestru:

£250 (gan gynnwys llety en-suite ar y campws)

£210 (gan gynnwys llety arferol ar y campws)

£180 Ôl-raddedig/Digyflog (gan gynnwys llety arferol ar y campws)

£150 Cofrestru yn unig

£120 Ôl-raddedig/Digyflog yn unig

£25 Cinio'r Gynhadledd

Mae ffioedd dyddiol ar gael hefyd. Mae'r lleoedd Ôl-raddedig yn gyfyngedig - argymhellir cofrestru'n gynnar. Mae ffi archebu'n hwyr yn ddaliadwy wedi'r 28ain o Ebrill 2009.

Mae'r ffioedd yn cynnwys holl ddigwyddiadau'r gynhadledd (gan gynnwys perfformiadau), a phrydau bwyd (heblaw am ginio'r gynhadledd).

Bydd ffurflenni cofrestru ar gael ar wefan y gynhadledd www.landscape.ac.uk/2009conference.html

Trefnwyr:

Yr Athro Mike Pearson a'r Dr. Heike Roms,

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

Y Panel Cynghori:

Yr Athro Adrian Kear, y Dr Carl Lavery, Dr Paul Newland, Lee Hassall ac Esther Pilkington,

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

Y Dr Peter Merriman a'r Dr Heidi Scott,

Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth

Cyfarwyddiaeth Rhaglen Tirwedd ac Amgylchedd yr AHRC:

Yr Athro Stephen Daniels a Charlotte Lloyd, Prifysgol Nottingham

Gyda chefnogaeth Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Am ragor o fanylion gweler

http://www.landscape.ac.uk/2009conference.html

 

Os oes gynnych ymholiadau ynghylch y gynhadledd cysylltwch â

Daniel Ladnar

Cynorthwyydd Ymchwil

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Prifysgol Aberystwyth, Adeilad Parry-Williams,

Aberystwyth SY23 3AJ, UK.

Ebost: landscape@aber.ac.uk

Ffôn: +44 (0)1970-621506

THEMES

REGISTRATION

PROGRAMME

ABSTRACTS

VENUES/
DIRECTIONS

ORGANISERS

NEWS

CONTACT

LINKS

CYMRAEG